Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym ni’n chwilio am weinyddwr penigamp sydd â phrofiad o ddelio â llwyth gwaith trwm ac sy’n gallu ymdopi â gofynion sy’n gwrthdaro.
Ydych chi’n drefnus? Ydych chi’n gallu siarad gyda phobl ar y ffôn? Ydych chi’n gallu gweithio’n rhan o dîm? Ydych chi wedi arfer gweithio’n gyflym?
Yna efallai mai dyma’r swydd i chi!
Mae’r Tîm Pwynt Mynediad Sengl rŵan yn rhan o’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cymorth a Chyngor sy’n helpu aelodau o’r cyhoedd, eu teuluoedd ac unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n eu cefnogi, i gael gafael ar yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.
Ydych chi’n dda am gael yr wybodaeth orau allan o bobl i ymateb i’w ymholiad yn gyflym? Byddwn yn eich darparu â hyfforddiant ac yn eich cefnogi i ddysgu at bwy i gyfeirio’r cwsmeriaid hyn. Byddwch angen llawer o wytnwch personol, ond byddwn yn eich helpu i fagu hyder mewn delio â sefyllfaoedd heriol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol, ac mae’r gallu i sgwrsio’n gartrefol gyda chwsmeriaid yn Gymraeg hefyd yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, darparu enghreifftiau sydd yn dangos eich profiad.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Bydd dealltwriaeth o ofal cymdeithasol o gymorth, ond gellir ei dysgu yn ystod eich amser yn y swydd.
Siaradwch â ni:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu hoffech gael gwybod rhagor am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Vanessa Williams, Rheolwr Adain Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
E-bost: Ruth.barr1@conwy.gov.uk Ffôn: 01492 574668
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
We are looking for a top notch administrator, with a background in dealing with high volume workload and juggling conflicting demands.
Are you organised? Great at talking to people on the phone? A supportive team player? Used to working at pace? Then we could have the job for you!
The Single Point of Access Team is part of the Information, Advice and Assistance service which helps members of the public, their families and any professionals supporting them, to access the right information at the right time.
Are you good at getting the best information out of people to respond to their query quickly? We will provide you with training, and support you to learn who to signpost these customers to. You’ll need personal resilience, but we will help you to gain confidence in dealing with challenging situations.
The ability to communicate in English is essential and the ability to converse at ease with customers in Welsh is desirable for this post.
When completing your application form, please provide examples evidencing your experience.
Due to the nature of the work, it will be necessary to obtain a satisfactory disclosure from the Disclosure and Barring Service (DBS).
An understanding of social care assists but can be learned “on the job”.
Talk to us:
If you have any questions or would like to know more about this role, please don’t hesitate to contact Ruth Barr, Team Manager – SPoA & Welfare Rights
Email: ruth.barr1@conwy.gov.uk Phone: 01492 574668
Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.
In promoting Equal Opportunities, Conwy welcomes applicants from all sections of the community. All Disabled applicants who meet the essential job requirements will be guaranteed an interview. The Council will provide appropriate additional work facilities for disabled applicants. There is an option for disabled people to apply on different formats. Please contact the HR Team on 01492 576129 for further advice.